Acts 12:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy theu ddywed e sont wrthei, Ydd wyt ti wedy ynvydy. A’ hi thae a gadarnhaodd vot y peth velly. Yno y dywed e sant wy, Ei Angel ef yt yw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy a ddywedasant wrthi, Allan o’th bwyll yr wyt; a hithau a daerai mai felly yr oedd; a hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Hwythau, dywedasant wrthi, “Yr wyt yn ynfyd.” Ond taeru a wnâi hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, “Ei angel yw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddywedasant wrthi, Yr wyt ti'n ynfydu. Hithau a daerodd mai felly yr oedd. Eithr hwy a ddywedasant, Ei angel ef ydyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ti'n drysu!” medden nhw. Ond roedd Rhoda yn dal i fynnu fod y peth yn wir. “Mae'n rhaid mai ei angel sydd yna!” medden nhw wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant wrthi, " 'Rwyt ti'n wallgof." Ond taerodd hithau mai felly yr oedd. Meddent hwythau, "Ei angel ydyw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond hwy a ddywedasant wrthi, Yr wyt yn ynfyd. Hithau a daerodd yn sicr mai felly yr oedd. Ond hwy a ddywedasant, ei angel ef ydyw.