Acts 12:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a amneidiawdd arnwynt a llaw, ar dewi o hanwynt, ac a vanagawdd yddwynt, paddelw y dugesei yr Arglwydd ef allan o’r carchar. Ac ef a ddyvot, Evvch‐ y‐ddangos y pethae hyn i Iaco ac ir broder: ac ef a ymadawodd ac a hyntiodd i le arall.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi amneidio arnynt â’i law i dewi, mynegodd iddynt pa wedd y bu i’r Arglwydd ei ddwyn ef allan o’r carchar; a dywedodd, Mynegwch i Iago, a’r brodyr, y pethau hyn. Ac wedi myned allan, yr aeth i le arall.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddo amneidio arnynt â’i law i dewi, fe adroddodd iddynt pa fodd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar; ac fe ddywedodd, “Mynegwch hyn i Iago a’r brodyr.” Ac aeth ymaith a chyrchu i le arall.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai'r Arglwydd ef allan o'r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i'r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn rhoi arwydd iddyn nhw dawelu, ac esboniodd iddyn nhw sut roedd yr Arglwydd wedi ei ryddhau o'r carchar. “Ewch i ddweud beth sydd wedi digwydd wrth Iago a'r credinwyr eraill,” meddai, ac wedyn aeth i ffwrdd i rywle arall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Amneidiodd yntau arnynt 'i law i fod yn ddistaw, ac adroddodd wrthynt sut yr oedd yr Arglwydd wedi dod ag ef allan o'r carchar. Dywedodd hefyd, "Mynegwch hyn i Iago a'r brodyr." Yna ymadawodd, ac aeth ymaith i le arall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi amneidio arnynt â llaw i dewi, efe a adroddodd iddynt y modd y dygodd yr Arglwydd ef allan o'r carchar: dywedodd hefyd, Mynegwch i Iago ac i'r brodyr y pethau hyn. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.