Acts 12:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy i Herod y geisiaw ef, ac eb ei gahel, ef a holawdd y ceidweit, ac a ’orchymynawdd ei harwein ymaith yvv poeni. Ac ef aeth y waered o Iudaia i Caisareia, ac a aro s odd ynavv.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Herod wedi chwilio am dano ac heb ei gael ef, ac wedi holi’r ceidwaid, a orchymynodd eu dwyn ymaith; ac wedi dyfod i wared o Iwdea i Cesarea, arhosodd yno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i Herod ei geisio a bod heb ei gael, cwestiynodd y gwylwyr a gorchmynnodd fynd â hwynt i’w lladd; ac aeth i lawr o Iwdea i Cesarea, a thario yno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Herod, pan ei ceisiodd ef, ac heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchmynnodd eu cymryd hwy ymaith. Yntau a aeth i waered o Jwdea i Cesarea, ac a arhosodd yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Herod yn gorchymyn chwilio amdano ym mhobman ond wnaethon nhw ddim llwyddo i ddod o hyd iddo. Ar ôl croesholi y milwyr oedd wedi bod yn gwarchod Pedr, dyma fe'n gorchymyn iddyn nhw gael eu dienyddio. Ar ôl hyn gadawodd Herod Jwdea, a mynd i aros yn Cesarea am ychydig.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i Herod chwilio amdano a methu ei gael, holodd y gwylwyr a gorchmynnodd eu dienyddio. Yna aeth i lawr o Jwdea i Gesarea, ac aros yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Herod wedi ceisio am dano, ac heb ei gael ef, a holodd y ceidwaid, ac a orchymynodd eu harwain ymaith i farwolaeth. Ac efe a aeth i waered o Judea i Cesarea, ac a arosodd yno.