Acts 12:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Herod oedd aei vryd ar ryvela yn y erbyn wy o Tyrus a Sidon: ac wyntwy oll a ddaethant yn vn vryd attaw, ac wedy troi Blastus oedd was stavell yr Brenhin, erchy heddwch a ’orugant, can ys bot maethddrin y gwlad hwy gan dir y Brenhin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd efe yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Turus a Tsidon; ac ag un fryd y daethant atto; ac wedi ynnill Blastus, ystafellydd y brenhin, deisyfiasant heddwch, o herwydd y cynhelid eu gwlad o wlad y brenhin.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd iddo chwerw ymryson â phobl Tyrus a Sidon; a deuthant hwythau’n, unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, gwas ystafell y brenin, ceisient heddwch am fod i’w gwlad hwynt ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Herod oedd yn llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon: a hwy a ddaethant yn gytûn ato; ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd ystafellydd y brenin, hwy a ddeisyfasant dangnefedd; am fod eu gwlad hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gwrthdaro ffyrnig wedi bod rhyngddo ag awdurdodau Tyrus a Sidon. Ond dyma nhw'n dod at ei gilydd i ofyn am gael cyfarfod gydag e. Roedd rhaid iddyn nhw sicrhau heddwch, am eu bod nhw'n dibynnu ar wlad Herod i werthu bwyd iddyn nhw. Ac roedden nhw wedi perswadio Blastus i'w helpu nhw. (Blastus oedd swyddog personol y brenin, ac roedd y brenin yn ymddiried yn llwyr ynddo.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd Herod yn gynddeiriog yn erbyn pobl Tyrus a Sidon. Ond daethant hwy yn unfryd ato, ac wedi ennill Blastus, siambrlen y brenin, o'u plaid, deisyfasant heddwch, am fod eu gwlad hwy yn cael ei chynhaliaeth o wlad y brenin.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd efe wedi ymgynddeiriogi yn erbyn y Tyriaid a'r Sidoniaid: ac yn unfryd hwy a ddaethant o'i flaen ef; ac wedi enill ffafr Blastus, ystafellydd y brenhin, hwy a ddeisyfasant heddwch, o herwydd bod eu gwlad yn cael ei hymborth o wlad y brenhin.