Acts 12:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r popul a roes gawri, gan ddyvvedyt, Llef Dew, ac ny d dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn eistedd ar y frawd-faingc, a areithiodd wrthynt; a’r bobl a floeddiodd, Eiddo Duw yw ’r llais, ac nid eiddo dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bloeddiai’r bobl, “Llais duw ydyw, nid llais dyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dyn ydyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r bobl yn dechrau gweiddi, “Duw ydy hwn, nid dyn sy'n siarad!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bloeddiodd y bobl, "Llais Duw ydyw, nid llais dyn!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r bobl a floeddiasant, Llais Duw ac nid dyn ydyw.