Acts 12:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac wedy iddaw ei ddal ha, y dodes ef yn‐carchar, ac ei rhoðes at petwar petwarieit milwyr yew gadw, gan veddwl ar ol y Pasc y ddwyn e allan ir popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yngharchar, gan ei draddodi at bedwar pedwariaid o filwyr i’w gadw, gan ewyllysio, ar ol y Pasg, ei ddwyn ef at y bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi ei ddal fe’i dododd yng ngharchar, a’i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i’w warchod, gan arofun wedi’r Pasg ei ddwyn ymlaen yng ngŵydd y bobl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn, wedi ei ddal, a roddes efe yng ngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o filwyr i'w gadw; gan ewyllysio, ar ôl y Pasg, ei ddwyn ef allan at y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd Pedr ei roi yn y carchar. Trefnwyd fod pedwar milwr ar wyliadwriaeth bob sifft. Bwriad Herod oedd dwyn achos cyhoeddus yn erbyn Pedr ar ôl y Pasg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi dal Pedr, fe'i rhoddodd yng ngharchar, a'i draddodi i bedwar pedwariad o filwyr i'w warchod, gan fwriadu dod ag ef allan gerbron y cyhoedd ar l y Pasg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn hefyd, wedi iddo ei ddal, a osododd efe yn ngharchar, ac a'i traddododd i bedwar gwarchodlu ‐o‐bedwar o filwyr i'w gadw; gan fwriadu ar ol y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl.