Acts 12:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan oedd Herod aei vryd ar y ddwyn ef allan ir bohul, y nos hon o y cyscawdd Petr rryng dau vilwr, wedy ei rwymo a dwy catwyn, a’r ceidweit rac y drws a gatwent y carchar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan yr oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef ymlaen, y nos honno yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a cheidwaid o flaen y drws a gadwent y carchar.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ger bron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws oedd yn gwarchod y carchar.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd Herod â'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn; a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y noson cyn yr achos llys, roedd Pedr yn cysgu. Roedd wedi ei gadwyno i ddau filwr — un bob ochr iddo, a'r lleill yn gwarchod y fynedfa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Herod ar fin ei ddwyn gerbron, y nos honno yr oedd Pedr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo dwy gadwyn, a gwylwyr o flaen y drws yn gwarchod y carchar.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan oedd Herod ar fedr ei ddwyn ef allan, y noson hono yr oedd Petr yn cysgu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn: ceidwaid hefyd o flaen y drws oeddynt yn gwylio y carchar.