Acts 12:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wele, Angel yr Arglwydd yn dyvot ar ei huchaf, a’ llewych oedd yn d yscleiriaw yn y tuy, ac ef yn taro Petr ar ei ystlys, ac yn ei gyvody i vyny dd, gan ddywedyt, Cyvot yn vuan. A’ei gatwynae a syrthiasant o iar ei ddwylaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan darawo ystlys Petr, deffrodd efe ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys; a syrthiodd ei gadwyni oddi am ei ddwylaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dyna angel yr Arglwydd yn dyfod a sefyll, a goleuni a ddisgleiriodd yn y gell; a chan daro ystlys Pedr fe’i deffrôdd, gan ddywedyd, “Cyfod ar frys;” a syrthiodd ei gadwyni oddiar ei ddwylo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw, a goleuni a ddisgleiriodd yn y carchar: ac efe a drawodd ystlys Pedr, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd, Cyfod yn fuan. A'i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn sydyn roedd angel yno, a golau yn disgleirio drwy'r gell. Rhoddodd bwniad i Pedr yn ei ochr i'w ddeffro. “Brysia!” meddai, “Cod ar dy draed!”, a dyma'r cadwyni'n disgyn oddi ar freichiau Pedr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma angel yr Arglwydd yn sefyll yno, a goleuni yn disgleirio yn y gell. Trawodd yr angel Pedr ar ei ystlys, a'i ddeffro a dweud, "Cod ar unwaith." A syrthiodd ei gadwynau oddi ar ei ddwylo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele, Angel yr Arglwydd a safodd yn ymyl, a goleuni a ddysglaeriodd yn y gell: ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i deffrôdd ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys: a'i gadwyni ef a syrthiasant ymaith oddi am ei ddwylaw.