Acts 12:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dywedyt o’r Angel wrthaw, Ymwregysa, a ’rhwym dy sandalae vvrthyt. Ac velly y gwnaeth. Yno y dywedodd wrthaw. Gwisc dy ddillat am danat, a’ chanlyn vi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a dod dy sandalau dan dy draed. A gwnaeth efe felly. A dywedodd wrtho, Bwrw dy gochl am danat, a chanlyn fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr angel wrtho, “Ymwregysa a dod dy sandalau amdanat;” ac fe wnaeth felly. Ac eb ef wrtho, “Bwrw dy fantell amdanat, a chanlyn fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, Bwrw dy wisg amdanat, a chanlyn fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho, “Rho dy ddillad amdanat a gwisga dy sandalau.” Ac ar ôl i Pedr wneud hynny, dyma'r angel yn dweud, “Tafla dy glogyn amdanat a dilyn fi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai'r angel wrtho, "Rho dy wregys a gwisg dy sandalau." Ac felly y gwnaeth. Meddai wrtho wedyn, "Rho dy fantell amdanat, a chanlyn fi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywed yr Angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau. Ac efe a wnaeth felly. A dywed wrtho, Gwisg dy gochl am danat, a chanlyn fi.