Acts 12:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Petr a ðaeth allan ac ei canlynawdd, ac ny wyddiat ef vot yn wir, y peth a wnaethit gan yr Angel, anid tybyet mae gweledigaeth a welsai.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned allan, canlynai, ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wnaed gan yr angel, ond tybiai mai gweledigaeth a welai efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth allan a’i ganlyn; ac ni wyddai mai gwir oedd yr hyn a wneid gan yr angel, eithr tybiai mai gweledigaeth a welai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef: ac ni wybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr angel; eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Pedr yn ei ddilyn allan o'r gell — ond heb wybod os oedd y peth yn digwydd go iawn neu ai dim ond breuddwyd oedd y cwbl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe'i canlynodd oddi yno. Ni wyddai fod yr hyn oedd yn cael ei gyflawni drwy'r angel yn digwydd mewn gwirionedd, ond yr oedd yn tybio mai gweld gweledigaeth yr oedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan fyned allan efe a ganlynodd, ac ni wyddai fod yr hyn a wnaethid trwy yr Angel yn wirioneddol, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.