Acts 13:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
YDd oedd hefyt yn yr Eccles yt oedd yn Antiocheia, Prophwyti ’rei a’ dyscyawdron, me g is Barnabas, ac Simeon y elwit Niger, a ’Lucius o Cyrene, ac Manahen (yr hwn y ddaroedd ei gyd vaethrin gyd ac Herod y Tetrarch) ac Saul
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yn Antiochia, yn yr eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon, Barnabas a Shimon yr hwn a elwid Niger, a Lucius y Curenead, a Maenan brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Shawl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd yn Antiochia yn yr eglwys a oedd yno broffwydi ac athrawon — Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Gyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd nifer o broffwydi ac athrawon yn yr eglwys yn Antiochia: Barnabas, Simeon (y dyn du), Lwcius o Cyrene, Manaen (oedd yn ffrind i Herod Antipas pan roedd yn blentyn), a Saul.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yn yr eglwys oedd yn Antiochia broffwydi ac Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, un o wu375?r llys y Tywysog Herod, a Saul.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yn Antioch, yn yr Eglwys oedd yno, brophwydi ac athrawon: Barnabas, a Symeon yr hwn a elwir Niger, a Lucius y Cyreniad, Manaen hefyd, brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Saul.