Acts 13:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn awr, nachaf, llaw yr Arglwydd ys yd arnat, a’ dall vyddy, ac eb welet yr haul dros amser. Ac yn ddiatrec y syrthiawdd arno niwlen a’ thywyllwc h ac ef aeth o y amhylch, y geisiaw llaw‐arweinwyr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yn awr, wele, llaw yr Arglwydd sydd arnat, a byddi ddall, heb weled yr haul am amser. Ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, a chan fyned o amgylch, ceisiai rai i’w arwain erbyn ei law.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyma law’r Arglwydd arnat ti yn awr, a thi fyddi ddall heb weled yr haul am dymor.” Ac yn y fan syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a than ymdroi o’i gwmpas ceisiai rywrai i roi llaw iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i'w arwain erbyn ei law.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw yn mynd i dy gosbi di! Rwyt ti'n mynd i fod yn ddall am gyfnod — fyddi di ddim yn gallu gweld golau dydd!” Yr eiliad honno daeth rhyw niwl a thywyllwch drosto! Roedd yn ymbalfalu o gwmpas, yn ceisio cael rhywun i afael yn ei law.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn awr dyma law'r Arglwydd arnat, ac fe fyddi'n ddall, heb weld yr haul, am beth amser." Ac ar unwaith syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a dyna lle'r oedd yn ymbalfalu am rywun i estyn llaw iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn awr, wele, y mae llaw yr Arglwydd arnat ti, a thi a fyddi ddall, heb weled yr haul am dymhor. Ac yn y man syrthiodd arno niwlen a thywyllwch, ac efe, gan fyned o amgylch, a geisiodd rai i'w arwain gerfydd ei law.