Acts 13:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y Raglaw pan welas yr hyn a wnaethit, a credoð, gan ryveddy wrth ddysc eidaeth yr Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna, gan weled o’r rhaglaw yr hyn a ddigwyddodd, credodd, yn aruthr ganddo wrth athrawiaeth yr Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna pan welodd y rhaglaw yr hyn a fu, fe gredodd, yn fawr ei syndod wrth y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y rhaglaw beth ddigwyddodd, daeth i gredu. Roedd wedi ei syfrdanu gan yr hyn oedd yn cael ei ddysgu iddo am yr Arglwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna pan welodd y rhaglaw beth oedd wedi digwydd, daeth i gredu, wedi ei synnu'n fawr gan y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna pan welodd y Rhaglaw yr hyn a wnaethid, efe a gredodd, gan ei daro a syndod at ddysgeidiaeth yr Arglwydd.