Acts 13:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddwynt vyned ymaith o Perga, wy ddaethāt i Antiocheia dinas ym‐ Pisidia, ac mynet y mewn ir Synagog y dyð Saboth, ac eisteð a ’orugant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a hwythau, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia; ac wedi myned i’r sunagog ar y dydd Sabbath, eisteddasant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond teithiasant hwy o Berga a chyrraedd Antiochia Pisidia; a myned i’r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr hwynt‐hwy, wedi ymado o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn i'w synagog ar y dydd Saboth, ac a eisteddasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond aethon nhw yn eu blaenau i Antiochia Pisidia. Ar y dydd Saboth dyma nhw'n mynd i'r gwasanaeth yn y synagog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant hwythau yn eu blaenau o Perga a chyrraedd Antiochia Pisidia, ac aethant i'r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr hwy, wedi tramwy o Perga, a ddaethant i Antioch yn Pisidia; a hwy a aethant i'r Synagog ar y dydd Sabbath, ac a eisteddasant.