Acts 13:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ol y llith y Ddedd y f a’r Prophwyti, yr archsynagogwyr a dd’anvonesont attwynt, gan ddywedyt, Ha wyr vroder, a’s oes genwch neb gair eiriol ir popul, dywedwch rhagoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ar ol darllen y Gyfraith a’r Prophwydi, danfonodd pennaethiaid y sunagog attynt, gan ddywedyd Brodyr, os oes gair o gyngor genych i’r bobl, traethwch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi’r darllen o’r Gyfraith a’r Proffwydi, fe anfonodd yr archsynagogwyr atynt, gan ddywedyd, “Frodyr, od oes gennych air o anogaeth i’r bobl, dywedwch ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl darllen y gyfraith a'r proffwydi, llywodraethwyr y synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, Ha wŷr, frodyr, od oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i rannau o Gyfraith Moses ac ysgrifau'r Proffwydi gael eu darllen, dyma arweinwyr y synagog yn cael rhywun i ofyn iddyn nhw, “Frodyr, teimlwch yn rhydd i siarad os oes gynnoch chi air o anogaeth i'r bobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l y darllen o'r Gyfraith a'r proffwydi, anfonodd arweinwyr y synagog atynt a gofyn, "Frodyr, os oes gennych air o anogaeth i'r bobl, traethwch."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ol darllen y Gyfraith a'r Prophwydi, Llywodraethwyr y Synagog a anfonasant atynt, gan ddywedyd, O wyr Frodyr, os oes genych air o gynghor i'r bobl, traethwch.