Acts 13:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dew y popul hynn yr Israel a dd etholes ein tadae, ac a dderchafawdd y popul pan oedd yn preswiliaw yn tir‐yr Aipht, ac a braich go ruchel y duc ef wynt allan oddynaw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Duw y bobl hyn, Israel, a etholodd ein tadau; ac y bobl a ddyrchafodd Efe yn y preswyliad yngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dug hwynt allan o honi;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, a’r bobl a ddyrchafodd yn ystod eu trigias yng ngwlad yr Aifft, ac â braich ddyrchafedig y dug hwynt allan
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, ac a ddyrchafodd y bobl, pan oeddynt yn ymdeithio yng ngwlad yr Aifft, ac â braich uchel y dug efe hwynt oddi yno allan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ein Duw ni, Duw Israel ddewisodd ein hynafiaid ni yn bobl iddo'i hun. Gwnaeth i'w niferoedd dyfu pan roedden nhw yn yr Aifft, ac yna eu harwain allan o'r wlad honno mewn ffordd rymus iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Duw'r bobl hyn, Israel, fe ddewisodd hwn ein tadau ni, a dyrchafodd y bobl pan oeddent yn estroniaid yng ngwlad yr Aifft, ac braich estynedig fe ddaeth hwy allan oddi yno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Duw y bobl hyn, Israel, a ddewisodd iddo ei hun ein Tadau, ac a ddyrchafodd y bobl pan yn preswylio yn ngwlad yr Aipht, ac â braich uchel y dygodd efe hwynt allan o honi.