Acts 13:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac am gylch amser danugain blynedd y goddefawdd ef y moesae h wy yn y dyffaith vvch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd eu moesau yn yr anialwch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi iddo ymddwyn â hwynt ddeugain mlynedd yn y diffeithwch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ynghylch deugain mlynedd o amser y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Goddefodd eu hymddygiad yn yr anialwch am tua pedwar deg o flynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am ryw ddeugain mlynedd bu'n cydymddwyn hwy yn yr anialwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ynghylch deugain mlynedd y meithrinodd efe hwynt yn yr Anialwch.