Acts 13:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mal ydd oeddent wy yn gweini ir Arglwydd, ac yn vmprydiaw, y dyvot yr Yspryt glan, Didolwch i mi Barnabas ac Saul, ir gwaith y gelwais am danwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac a hwy yn gwasanaethu’r Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch, yn awr, i Mi Barnabas a Shawl i’r gwaith at yr hwn y gelwais hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac a hwy’n gwasanaethu’r Arglwydd ac yn ymprydio, fe ddywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Farnabas a Saul i’r gwaith y gelwais hwynt iddo.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedden nhw'n addoli Duw ac yn ymprydio, dyma'r Ysbryd Glân yn dweud, “Mae gen i waith arbennig i Barnabas a Saul ei wneud, a dw i am i chi eu rhyddhau nhw i wneud y gwaith hwnnw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oeddent hwy'n offrymu addoliad i'r Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Gln, "Neilltuwch yn awr i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith yr wyf wedi eu galw iddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd Glân, Neillduwch yn awr i mi Barnabas a Saul i'r gwaith i'r hwn yr wyf wedi eu galw.