Acts 13:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ol hynny yr archasant gael Brenhin, ac y rhoes Dew yðwynt Saul, vap Cis gwr o lwyth Beniamin dros yspait dauugain blynedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ar ol hyny y gofynasant frenhin, ac iddynt y rhoddes Duw Shawl, mab Cish, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mlynedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna ceisiasant frenin, a rhoddes Duw iddynt Saul, fab Cis, gŵr o lwyth Beniamin, am ddeugain mlynedd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul mab Cis, gŵr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pryd y gofynnodd y bobl am frenin, a rhoddodd Duw Saul fab Cis (o lwyth Benjamin) iddyn nhw, a buodd yn frenin am bedwar deg mlynedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn gofynasant am gael brenin, a rhoddodd Duw iddynt Saul fab Cis, gu373?r o lwyth Benjamin, am ddeugain mlynedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o'r amser hyny y gofynasant am frenhin, a Duw a roddodd iddynt Saul, mab Cis, gwr o lwyth Benjamin, ddeugain mlynedd.