Acts 13:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn ol y ysmuto ef, y cyvodes ef Ddauyð yn Vrenhin yddwynt, am ba vn y testiawdd ef, gan ddywedyt, Ys cefeis Ddauydd vap Iesse, gwr herwydd vy‐calon, yr hwn a wna pop peth a’r ewyllysiwyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi ei symmud ef, cyfododd Efe Dafydd iddynt, yn frenhin, i’r hwn y tystiolaethodd, gan ddywedyd, Cefais Dafydd, mab Ieshe, gŵr yn ol Fy nghalon, yr hwn a wna Fy holl ewyllys.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fe’i diswyddodd ef, a chyfodi Dafydd iddynt yn frenin, ac iddo ef y tystiolaethodd, gan ddywedyd, ‘Cefais Ddafydd, fab Iesse, yn ŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Dafydd yn frenin iddynt; am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gŵr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl cael gwared â Saul, dyma Duw yn gwneud Dafydd yn frenin arnyn nhw. Dyma ddwedodd Duw am Dafydd: ‘Mae Dafydd fab Jesse yn ddyn sydd wrth fy modd; bydd yn gwneud popeth dw i am iddo'i wneud.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe'i diorseddodd ef, a chodi Dafydd yn frenin iddynt, a thystiolaethu iddo gan ddweud, 'Cefais Ddafydd fab Jesse yn u373?r wrth fodd fy nghalon, un a wna bob peth yr wyf yn ei ewyllysio.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ei symud ef, efe a gyfododd Dafydd iddynt i fod yn frenhin; i'r hwn hefyd y tystiolaethodd, ac a ddywedodd, Cefais Dafydd mab Jesse, gwr yn ol fy nghalon, yr hwn a wna fy holl ewyllys.