Acts 13:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan gyflawnoð Ioan ei gerðet, y dywedoð, y neb a veddylwch vy‐bot i, ni d hvvnvv yw vi: eithyr wele, y mae vn yn dyvot ar vy ol i, yr hwn nid wyf deilwng y dd atdod escit ei draet. Yr Epistol ddie Marth Pasc.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan gyflawnai Ioan ei redfa, dywedodd, Pa beth y tybiwch fy mod i? Nid myfi yw Efe: eithr wele, dyfod ar fy ol y mae yr Hwn nad wyf deilwng i ddattod esgidiau Ei draed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wrth fod Ioan yn cyflawni ei yrfa, fe ddywedai, ‘Yr hyn y tybiwch fy mod i, nid ydwyf fi; eithr dyma fe’n dyfod ar fy ôl i, ac nid wyf deilwng i ddatod yr esgidiau am ei draed.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw efe: eithr wele, y mae un yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd gwaith Ioan bron â dod i ben, dwedodd fel hyn: ‘Dych chi'n meddwl mai fi ydy'r Meseia? Na, dim fi ydy e. Mae'n dod ar fy ôl i, a dw i ddim yn haeddu bod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wrth ei fod yn cwblhau ei yrfa, dywedodd Ioan, 'Beth yr ydych chwi'n tybio fy mod? Nid hynny wyf fi. Na, dyma un yn dod ar f'l i nad wyf fi'n deilwng i ddatod y sandalau am ei draed.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pa beth dybiwch chwi wyf fi? nid myfi yw efe; ond wele y mae un yn dyfod ar fy ol i, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddatod esgidiau ei draed.