Acts 13:27 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys preswylwyr Caerusalem a’ ei llywodraethwyr cā nad adnabuont ef, nac eto llefae yr Prophwyti, yr ei a ddarlle n ir pop dydd Sabbath, y gyflawnesant wy, can y varny ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys y rhai yn trigo yn Ierwshalem a’u tywysogion, gan nad adwaenant Ef na lleisiau y prophwydi y rhai a ddarllenid bob Sabbath, gan Ei farnu Ef a’u cyflawnasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys trigolion Caersalem a’u llywodraethwyr, heb adnabod hwn ac ymadroddion y proffwydi, a ddarllenir bob Saboth, trwy ei farnu cyflawnasant hwynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaeth pobl Jerwsalem a'u harweinwyr mo'i nabod e. Wrth ei gondemnio i farwolaeth roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd y proffwydi sy'n cael eu darllen bob Saboth yn ei ddweud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd nid adnabu trigolion Jerwsalem a'u llywodraethwyr mo hwn; ni ddeallasant chwaith eiriau'r proffwydi a ddarllenir bob Saboth, ond eu cyflawni trwy ei gondemnio ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys y rhai sydd yn preswylio yn Jerusalem, a'u llywodraethwyr, heb adnabod hwn na lleisiau y Prophwydi, y rhai a ddarllenir bob Sabbath gan ei farnu a' u cyflawnasant.