Acts 13:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am iddaw y gyvody ef o veirw ny mwy ach ar adymchoelyd ir bedd, y dyvot val hyn, Roðaf ychwy sanctawl bethae Dauid, yr ei ynt ffyðlon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y cyfododd Ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd, “Rhoddaf Iddo drugareddau sicr Dafydd:”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac am ei gyfodi ganddo o feirw, heb ei fod mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd: Rhoddaf i chwi ddilys dduwioldeb Dafydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw wedi ei godi yn fyw ar ôl iddo farw, a fydd ei gorff byth yn pydru'n y bedd! Dyna ystyr y geiriau yma: ‘Rhof i ti y bendithion sanctaidd a sicr gafodd eu haddo i Dafydd.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ynglu375?n 'i fod wedi ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw, byth i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y mae wedi dweud fel hyn: 'Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd sy'n perthyn i Ddafydd, y pethau sicr.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i fod wedi ei gyfodi ef o feirw, ddim mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y mae wedi ddywedyd, Rhoddaf i chwi y pethau sanctaidd a wnaed yn sicr i Dafydd,