Acts 13:36 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys Dauid eisioes gwedy iddaw wasanaethy ei oes, drwy gyccor Dew, ef a hunawdd, ac a osodwyt gyd aei dadae, ac a welawdd lygr edigeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys Dafydd, yn wir, wedi iddo yn ei genhedlaeth wasanaethu cynghor Duw, a hunodd, ac a roddwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys Dafydd, wedi iddo yn ei oes ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a hunodd ac a ddodwyd gyda’i dadau ac a welodd lygredigaeth;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dydy'r geiriau yma ddim yn sôn am Dafydd. Buodd Dafydd farw ar ôl gwneud popeth roedd Duw am iddo ei wneud yn ei gyfnod. Cafodd ei gladdu ac mae ei gorff wedi pydru.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Canys Dafydd, wedi iddo yn ei genhedlaeth ei hun wasanaethu ewyllys Duw, fe hunodd ef, ac fe'i rhoddwyd i orffwys gyda'i dadau, a gwelodd lygredigaeth;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys Dafydd yn wir, wedi gwasanaethu ei genhedlaeth ei hun yn ol Cynghor Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth.