Acts 13:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ywrth pop peth, y gan ba r’ei ny ellit eich cyfiawny trwy Ddeðyf Moysen, ys trwy ddaw ef pop vn a creta, a gyfiawnir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac oddi wrth yr holl bethau na allech trwy Gyfraith Mosheh eich cyfiawnhau oddi wrthynt, trwy Hwn pob un a gredo a gyfiawnheir.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac oddiwrth yr holl bethau na allwyd eich rhyddhau oddiwrthynt trwy gyfraith Moesen y rhyddheir trwy hwn bawb a gredo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trwyddo fe mae pawb sy'n credu yn cael perthynas iawn gyda Duw. Dydy Cyfraith Moses ddim yn gallu rhoi'r berthynas iawn yna i chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a thrwy hwn y rhyddheir pawb sy'n credu oddi wrth yr holl bethau nad oedd modd eich rhyddhau oddi wrthynt trwy Gyfraith Moses.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac oddiwrth yr holl bethau oddiwrth y rhai ni allech yn Nghyfraith Moses gael eich cyfiawnhau, yn hwn, pob un sydd yn credu, a gyfiawnheir,