Acts 13:41 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Edrychwch ddirmygwyr, a’ rhyveddwch, a’ diflanwch ymaith: can ys, gweithiaf weithred yn eich dyddiae, gweithredd ny’s credwch, a byddei y neb ei vanegy ychwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
“Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflenwch; Canys gwaith yr wyf Fi yn ei weithio yn eich dyddiau, Gwaith na chredwch mo’no er i neb ei fynegi i chwi.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a darfydded amdanoch; canys gweithred yr wyf fi yn ei gwneuthur yn eich dyddiau chwi, gweithred na chredwch ddim ynddi, er ei llwyr fynegi i chwi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch, O ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
‘Edrychwch, chi sy'n gwawdio, rhyfeddwch at hyn, a gwywo! Oherwydd bydda i'n gwneud yn eich dyddiau chi rywbeth fyddwch chi ddim yn ei gredu, hyd yn oed petai rhywun yn dweud wrthoch chi!’ ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflannwch, oherwydd yr wyf fi'n cyflawni gweithred yn eich dyddiau chwi, gweithred na chredwch ynddi byth, er ei hadrodd yn llawn ichwi.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwelwch, O ddirmygwyr a rhyfeddwch, a diflanwch o'r golwg; Canys yr wyf fi yn gweithredu gweithred yn eich dyddiau; Gweithred na chredwch o gwbl er i un ei dadgan yn llawn i chwi.