Acts 13:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedi ei ei dyvot wy allan o Synagog yr Iuddaeon, ydd atolygawdd y Cenetloedd preceo hanynt y geiriae hyn y ddwynt y dy dd Sabbath nesaf,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth fyned allan o honynt, deisyfiasant gael ar y Sabbath nesaf fynegi iddynt yr ymadroddion hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac a hwynt yn myned allan, deisyfai’r bobl arnynt lefaru’r pethau hyn wrthynt y Saboth nesaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan aeth yr Iddewon allan o'r synagog, y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu'r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i Paul a Barnabas adael y synagog, dyma'r bobl yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl i ddweud mwy y Saboth wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth iddynt fynd allan, yr oedd y bobl yn deisyf arnynt lefaru'r pethau hyn wrthynt y Saboth wedyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oeddent yn myned allan, hwy a atolygasant am i'r geiriau hyn gael eu llefaru wrthynt ar y Sabbath dylynol.