Acts 13:43 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy ymadael or Gynnulleidfa, llawer or Iuddaeon, ac o proseliteit o’r oeð yn ofny Dew, a ddylynesant Paul ac Barnabas, yr ei a lavarodd wrthwynt, ac a annogawdd ar nadd wynt ar aros yn rrat Dew,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan ollyngwyd y cyfarfod ymaith, canlynodd llawer o’r Iwddewon ac o’r proselytiaid defosiynol ar ol Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yngras Duw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi gollwng y gynulleidfa canlynodd llawer o’r Iddewon a’r proselytiaid crefyddol Baul a Barnabas, a llefarant hwythau wrthynt, a’u hannog i lynu wrth ras Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi gollwng y gynulleidfa, llawer o'r Iddewon ac o'r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas; y rhai gan lefaru wrthynt, a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan roedd y cyfarfod drosodd, dyma nifer dda o Iddewon a phobl oedd wedi troi at y grefydd Iddewig yn mynd ar ôl Paul a Barnabas. Dyma'r ddau yn pwyso arnyn nhw i ddal gafael yn y ffaith fod Duw mor hael.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i'r gynulleidfa gael ei gollwng, aeth llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid oedd yn addolwyr Duw, ar l Paul a Barnabas, a buont hwythau yn llefaru wrthynt a'u hannog i lynu wrth ras Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ollyngwyd y gynulleidfa, llawer o'r Iuddewon ac o'r Proselytiaid duwiol‐frydig a ganlynasant Paul a Barnabas, y rhai, gan lefaru wrthynt, a'u cymhellasant i barhâu yn ngras Duw.