Acts 13:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welas yr Iuddaeon y popul, y cyflawnwyt wy o genvigen, ac a ðywedesant yn erbyn y pethae, a ddywedwyt gan Paul, gan ei gwrth‐ddywedyt a’ ei caply.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’r Iwddewon y torfeydd, llanwyd hwynt o eiddigedd, a gwrth-ddywedasant yn erbyn y pethau a leferid gan Paul, gan gablu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd yr Iddewon y torfeydd fe’u llannwyd o genfigen, a dechreuasant wrthddwedyd yr hyn a leferid gan Baul, ai ddifrïo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr Iddewon, pan welsant y torfeydd, a lanwyd o genfigen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrthddywedyd a chablu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan welodd yr arweinwyr Iddewig cymaint o dyrfa oedd yno, roedden nhw'n genfigennus; a dyma nhw'n dechrau hyrddio enllibion at Paul, a dadlau yn erbyn popeth roedd yn ei ddweud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd yr Iddewon y tyrfaoedd fe'u llanwyd chenfigen, ac yr oeddent yn gwrthddweud y pethau yr oedd Paul yn eu llefaru, gan ei ddifenwi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Iuddewon yn gweled y torfeydd, a lanwyd o eiddigedd, ac a wrth‐ddywedasant y pethau a leferid gan Paul, ac a gablasant.