Acts 13:46 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y llevarawdd Paul a’ Barnabas yn hederus, gan ddywedyt, Rait oedd ymadrodd gair Dew yn cyntaf y chvvy chwi: anid can y chwi ei wrthladd e a’ch barny eichunain yn anteilwng o vywyt tragyvythawl, nachaf, nyni yn ymchwelyt at y Cenetloeod.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan lefaru yn hyderus o Paul a Barnabas hefyd, dywedasant, Wrthych chwi yn gyntaf yr oedd rhaid i Air Duw gael ei lefaru; ac o herwydd ei wrthod yr ydych, ac yn barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragywyddol, wele, troi at y cenhedloedd yr ydym;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy, a dywedyd, “Rhaid oedd llefaru gair Duw yn gyntaf i chwi; bellach, gan eich bod yn ei wrthod ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, dyma ni’n troi at y Cenhedloedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy, ac a ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf: eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele, yr ydym yn troi at y Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd ateb Paul a Barnabas yn ddi-flewyn-ar-dafod: “Roedd rhaid i ni gyhoeddi neges Duw i chi gyntaf. Ond gan eich bod chi'n gwrthod gwrando, ac felly'n barnu eich hunain yn anaddas i gael bywyd tragwyddol, awn ni at bobl y cenhedloedd eraill.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy: "I chwi," meddent, "yr oedd yn rhaid llefaru gair Duw yn gyntaf. Ond gan eich bod yn ei wrthod, ac yn eich dyfarnu eich hunain yn annheilwng o'r bywyd tragwyddol, dyma ni'n troi at y Cenhedloedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Paul a Barnabas a lefarasant yn hyf, ac a ddywedasant, Yr oedd anghenrhaid i lefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf. Hefyd, gan eich bod yn ei wthio oddiwrthych, ac yn barnu eich hun yn anheilwng o fywyd tragywyddol, wele, yr ydym ni yn troi at y Cenhedloedd;