Acts 13:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys velly y gorchymynawdd yr Arglwydd y ni, gan ddyvvedyt. Gosodeis dy di yn leuver ir Cenetloedd, y n y bych iachyt yd ar ddyweð y byt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys felly y gorchymynodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, “Gosodais di yn oleuni i’r cenhedloedd, Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni: Gosodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd i fod ohonot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaear.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys felly y gorchmynnodd yr Arglwydd i ni, gan ddywedyd, Mi a'th osodais di yn oleuni i'r Cenhedloedd, i fod ohonot yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Achos dyma wnaeth Duw ei orchymyn i ni: ‘Dw i wedi dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd, er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.’ ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oblegid hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni: 'Gosodais di yn oleuni'r Cenhedloedd, iti fod yn gyfrwng iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear.'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys felly y mae yr Arglwydd wedi gorchymyn i ni, Yr wyf wedi dy osod i fod yn oleuni'r Cenhedloedd, Fel y byddit yn iachawdwriaeth hyd eithaf y ddaear. (Es 49:6).