Acts 13:48 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan glybu yr Cenetloedd, llawenhay a wnaethant, a gogoneddy gair yr Arglwydd, a’ chyniver ac a ordinesit ir bywyt tragyvythawl, a gredesant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth glywed hyn, y cenhedloedd a lawenychent ac a ogoneddent Air Duw; a chredodd cynnifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywsant, bu lawen gan y cenhedloedd, a gogoneddent air Duw, a chredasant — gynifer ag a oedd yn gymwys i fywyd tragwyddol;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Cenhedloedd pan glywsant, a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol, a gredasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl y cenhedloedd wrth eu boddau pan glywon nhw hyn, a dyma nhw'n canmol neges yr Arglwydd. Dyma pob un oedd i fod i gael bywyd tragwyddol yn dod i gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth glywed hyn, yr oedd y Cenhedloedd yn llawenychu a gogoneddu gair yr Arglwydd, a chredodd cynifer ag oedd wedi eu penodi i fywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Cenhedloedd yn clywed hyn a lawenychasant, ac a ogoneddasant Air yr Arglwydd: a chynifer ag oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragywyddol a gredasant.