Acts 13:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac pan oeddent yn Salamis, y precethesant ’air Dew yn Synagae yr Iuðeon: ac ydd oedd Ioan hefyt yn wenidawc yddvvynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan yr oeddynt yn Shalamus, mynegasant Air Duw yn sunagogau yr Iwddewon; ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn weinidog.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi cyrraedd Salamis dechreuasant gyhoeddi gair Duw yn synagogau’r Iddewon. (Yr oedd ganddynt Ioan hefyd, yn gynorthwywr.)
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl cyrraedd Salamis dyma nhw'n mynd ati i gyhoeddi neges Duw yn synagogau'r Iddewon. (Roedd Ioan gyda nhw hefyd fel cynorthwywr.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi cyrraedd Salamis, cyhoeddasant air Duw yn synagogau'r Iddewon. Yr oedd ganddynt Ioan hefyd yn gynorthwywr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gyrhaeddasant Salamis, hwy a fynegasant Air Duw yn Synagogau yr Iuddewon: ac yr oedd ganddynt Ioan hefyd fel eu cynorthwywr.