Acts 13:50 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iuddaeon oedd yn cynnyrfy rei or gwragedd devosionol ac anrydeddus, a’ phennaethieit y dinas, ac y godesont ymlit yn erbyn Paul ac Barnabas, ac ei gyrresont allan oei tervynae hvvy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yr Iwddewon a annogasant y gwragedd defosiynol, y rhai anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a bwriasant hwynt allan o’u terfynau;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond cyffroes yr Iddewon y gwragedd crefyddol bonheddig a gwŷr blaenaf y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a’u bwrw allan o’u gororau hwynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iddewon a anogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phenaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwy allan o'u terfynau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna dyma'r arweinwyr Iddewig yn creu cynnwrf ymhlith y gwragedd o'r dosbarth uwch oedd yn ofni Duw, a dynion pwysig y ddinas. A dyma nhw'n codi twrw a pheri i Paul a Barnabas gael eu taflu allan o'r ardal.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe gyffrdd yr Iddewon y gwragedd bonheddig oedd yn addolwyr Duw, a phrif wu375?r y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a'u bwrw allan o'u hardal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iuddewon a gymhellasant yn mlaen y gwragedd defosiynol o safle anrhydeddus a phrif ddynion y ddinas a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwynt allan o'u terfynau.