Acts 13:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy yddwynt gerddet dros yr ynys yd yn Paphus, wy a gawsant ryw swynwr, gau prophwyt, o Iddew, a’ei enw Bariesus,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi tramwy trwy’r holl ynys hyd Paphos, cawsant ryw ŵr o swynwr, gau-brophwyd Iwddewig, a’i enw Bar-ieshu,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi teithio trwy’r holl ynys hyd Baffus cawsant ryw ŵr o ddewin, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bariesu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt dramwy trwy'r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a'i enw Bar‐iesu;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n teithio drwy'r ynys gyfan, ac yn dod i Paffos. Yno dyma nhw'n dod ar draws rhyw Iddew oedd yn ddewin ac yn broffwyd ffug. Bar-Iesu oedd yn cael ei alw,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant drwy'r holl ynys hyd Paffos, a chael yno ryw ddewin, gaubroffwyd o Iddew, o'r enw Bar-Iesu;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi myned trwy yr holl ynys hyd Paphos, hwy a gawsant un Magiad, gau‐brophwyd, Iuddew,