Acts 13:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn yt oeð y gyd a’ Raglaw Sergius Paulus, vn oedd wr prudd. Ef e a ’alwodd‐ato am Barnabas ac Saul, ac a ddesyfawdd cael clywet gair Dew.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr deallus; hwn, wedi galw atto Barnabas a Shawl, a ddeisyfiodd glywed Gair Duw:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallgar. Galwodd hwn Farnabas a Saul ato, a mynnodd gael clywed gair Duw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn oedd gyda'r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ac roedd yn gwasanaethu fel aelod o staff y rhaglaw Sergiws Pawlus. Roedd y rhaglaw yn ddyn deallus, ac anfonodd am Barnabas a Saul am ei fod eisiau clywed beth oedd y neges yma gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr oedd hwn gyda'r rhaglaw, Sergius Pawlus, gu373?r deallus. Galwodd hwnnw Barnabas a Saul ato, a cheisio cael clywed gair Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
o'r enw Bar‐Iesu, yr hwn oedd gyda'r Rhaglaw, Sergius Paulus, gwr deallus. Hwn wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd glywed Gair Duw.