Acts 13:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Elymas, y swynwr (can ys velly ytyw ei enw oei ddeongyl) a wrthladdawdd yddwynt, gan geisiaw d’atroi y Raglaw o’r ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond eu gwrthsefyll hwynt a wnaeth Elymas, y swynwr (canys felly y cyfieithir ei enw ef), gan geisio gwyrdroi y rhaglaw oddiwrth y ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond eu gwrthsefyll a wnâi Elymas, y dewin (felly y cyfieithir ei enw), a cheisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddiwrth y ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Elymas ‛y dewin‛ (dyna ydy ystyr ei enw yn yr iaith Roeg) yn dadlau yn eu herbyn ac yn ceisio troi'r rhaglaw yn erbyn y ffydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd Elymas y dewin (felly y cyfieithir ei enw) yn eu gwrthwynebu, a cheisio gwyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr Elymas y Magiad (canys felly y cyfieithir ei enw ef) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi y Rhaglaw oddiwrth y Ffydd.