Acts 14:11 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno pan welas y popul yr hynn a wnaethoedd Paul, y darchavesant ei llef, can ddywedyt yn iaith Lycaonia, Dewiae a ddescenesent atam yn rhith dynion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu lleisiau, gan ddywedyd yn iaith Lucaonia, Y duwiau, wedi eu cyffelybu i ddynion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y torfeydd yr hyn a wnaethai Paul, codasant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, “Y duwiau ar lun dynion a ddaeth i, lawr atom.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethai Paul, hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, Y duwiau yn rhith dynion a ddisgynasant atom.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y dyrfa beth wnaeth Paul, dyma nhw'n dechrau gweiddi yn iaith Lycaonia, “Mae'r duwiau wedi dod i lawr aton ni fel dynion!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: "Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion";
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r torfeydd, wedi gweled yr hyn a wnaeth Paul, a godasant eu llais, yn iaith Lycaonia, gan ddywedyd, Y mae y duwiau yn nghyffelybiaeth dynion wedi disgyn atom ni.