Acts 14:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr offeiriat yddo Iupiter, yr hwn ytoedd ger wynep y dinas, a dduc teirw a garlanti gerbron y pyrth, ac a vynesei aberthy y gyd a’r popul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac offeiriad teml Iwpiter, yr hon sydd o flaen y ddinas, wedi dyfod â theirw a garlandau at y pyrth, a ewyllysiai, ynghyda’r torfeydd, aberthu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dug offeiriad yr Iau a oedd o flaen y ddinas deirw a thorchau at y pyrth, ac arofunai aberthu gyda’r torfeydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna offeiriad Jwpiter, yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynasai gyda'r bobl aberthu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma offeiriad o deml Zews, oedd ychydig y tu allan i'r ddinas, yn dod â theirw a thorchau o flodau at giatiau'r ddinas, gyda'r bwriad o gyflwyno aberthau iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd teml Zeus y tu allan i'r ddinas, a daeth yr offeiriad theirw a thorchau at y pyrth gan fwriadu offrymu aberth gyda'r tyrfaoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac offeiriad Jupiter, teml yr hwn oedd o flaen y ddinas, a ddyg deirw a dail‐blethau hyd at y pyrth, ac a fynasai gyda'r torfeydd aberthu.