Acts 14:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am’d pan glybu yr Apostolō, Barnabas ac Paul, wy a rwygesont ei ddillat, ac a redesont y mevvn ymplith y popul, gan lefain,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed hyn, yr apostolion, Barnabas a Paul, gan rwygo eu cochlau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Phaul, rhwygasant eu dillad a neidio allan i blith y dyrfa, gan weiddi
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r apostolion Barnabas a Phaul, pan glywsant hynny, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant ymhlith y bobl, gan lefain,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan ddeallodd y ddau beth oedd yn mynd ymlaen, dyma nhw'n rhwygo eu dillad ac yn rhuthro allan i ganol y dyrfa, yn gweiddi:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Paul, am hyn, rhwygasant eu dillad, a neidio allan i blith y dyrfa dan weiddi,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yr Apostolion, Barnabas a Paul, pan glywsant, a rwygasant eu dillad, ac a neidiasant allan i blith y dyrfa, gan waeddi a dywedyd,