Acts 14:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
a’ dywedyt, Ha wyr, paam y gwnewch y pethae hyn? A’ dynion ym ni neu yn‐ gorvot dyoðef val chwychwy, ac yn precethy ychwy, ar ymchwelyt o hanoch y wrth y gweigion pethae hynn at y Dew byw, yr hwn a wnaeth nef a daiar, a’r mor, a ’r oll ys ydd ynthwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a neidiasant allan ymhlith y dyrfa, dan waeddi, a dywedyd, Dynion, paham mai’r pethau hyn a wnewch? Ninnau hefyd, yn dioddef cyffelyb bethau a chwychwi yr ydym, yn ddynion, ac yn efengylu i chwi droi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw, yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a’r holl bethau y sydd ynddynt:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedyd, “Wŷr, paham y gwnewch hyn? Dynion ydym ni hefyd, un anian â chwithau; cyhoeddi yr ydym newydd da i chwi, ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a chwbl sydd ynddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedyd, Ha wŷr, paham y gwnewch chwi'r pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi ar i chwi droi oddi wrth y pethau gweigion yma at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nef a daear, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na! Na! Ffrindiau! Pam dych chi'n gwneud hyn? Pobl gyffredin fel chi ydyn ni! Dŷn ni wedi dod â newyddion da i chi! Rhaid i chi droi cefn ar y pethau diwerth yma, a chredu yn y Duw byw. Dyma'r Duw wnaeth greu popeth — yr awyr a'r ddaear a'r môr a'r cwbl sydd ynddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r mr a phopeth sydd ynddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O wyr, paham y gwnewch y pethau hyn? ninau hefyd ydym o gyffelyb naturiaeth a chwithau, yn ddynion, gan bregethu ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion hyn at Dduw byw, yr hwn a wnaeth y nefoedd a'r ddaear a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt: