Acts 14:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cyd na adawodd ehun yn ddi‐dyst, can iddaw wneythy da oni, ac dody glaw y ny ni or nefoedd, ac amserae ffrwythlawn, a’ llanw y ein calonae ac abwyt, ac a llewenydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond er hyny, nid heb dystiolaeth y gadawodd Efe Ef ei hun, gan wneuthur daioni, a rhoddi o’r nef i chwi wlawodydd a thymhorau ffrwythlon, a llenwi eich calonnau â lluniaeth a llawenydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac eto mewn gwneuthur daioni nis gadawodd ei hun heb dyst, gan roddi glaw i chwi o’r nef a thymhorau ffrwythlon, a llenwi’ch calonnau â lluniaeth a llawenydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny ni adawodd efe mohono ei hun yn ddi‐dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi glaw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â lluniaeth ac â llawenydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond mae digonedd o dystiolaeth o'i ddaioni o'ch cwmpas chi: mae'n rhoi glaw ac yn gwneud i gnydau dyfu yn eu tymor — i chi gael digon o fwyd, ac i'ch bywydau fod yn llawn o lawenydd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er hyny, ni adawodd efe ei hun yn ddidyst, gan wneuthur daioni, gan roddi i chwi wlawogydd a thymhorau ffrwythlawn, gan lenwi eich calonau â lluniaeth a llawenydd.