Acts 14:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ryw Iuddaeon e Antiocheia ac Iconium, yr ei wedy yddwynt gvvbl eiriol y popul, a lapyddiesont Paul, ac ei lluscesont allan or dinas gan dybieit ei varw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth yno Iwddewon, o Antiochia ac Iconium; ac wedi perswadio’r torfeydd a llabyddio Paul, llusgasant ef allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium, ac wedi ennill y torfeydd lluchiasant gerrig a llusgo Paul allan o’r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl; ac wedi llabyddio Paul, a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod ef wedi marw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn dyma Iddewon o Antiochia ac Iconium yn cyrraedd yno a llwyddo i droi'r dyrfa yn eu herbyn. A dyma nhw'n dechrau taflu cerrig at Paul a'i lusgo allan o'r dref, gan dybio ei fod wedi marw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium; ac wedi iddynt berswadio'r tyrfaoedd, lluchiasant gerrig at Paul, a'i lusgo allan o'r ddinas, gan dybio ei fod wedi marw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond daeth Iuddewon o Antioch ac Iconium; ac wedi darbwyllo y torfeydd a llabyddio Paul, hwy a'i llusgasant ef allan o'r ddinas, gan dybied ei fod wedi marw.