Acts 14:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan gadarnhay calonae yr discipulon, a’ ei hannoc y aros yn y ffydd, gan ddyvvedyt mae trwy trollodae lawer y byð dir y ni vyned y mewn teyrnas nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan gadarnhau eneidiau y disgyblion, gan gynghori iddynt aros yn y ffydd, a dweud mai trwy lawer o orthrymderau y mae rhaid i ni fyned i mewn i deyrnas Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u hannog i lynu wrth y ffydd, a dywedyd mai “trwy orthrymderau lawer y mae i ni fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan gadarnhau eneidiau'r disgyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n cryfhau ffydd y disgyblion a'u hannog i aros yn ffyddlon. “Rhaid gadael i Dduw deyrnasu yn ein bywydau i ni allu wynebu'r holl drafferthion,” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chadarnhau eneidiau'r disgyblion a'u hannog i lynu wrth y ffydd, gan ddweud, "Trwy lawer o gyfyngderau yr ydym i fynd i mewn i deyrnas Dduw."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan gadarnhau eneidiau y dysgyblion, gan eu cynghori i aros yn y ffydd, a dywedyd, Trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i mewn i Deyrnas Dduw.