Acts 14:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wedy ordiniaw o hanynt yddwynt Henafiait trwy etholedigaeth ym‐pop Eccles, a’ gweddiaw, ac vmprydiaw, wy ei gorchymynesont vvy ir Arglwydd yr hwn y credent ynthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dewis iddynt henuriaid ym mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghydag ymprydiau, gorchymynasant hwynt i’r Arglwydd, yn yr Hwn y credasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac etholasant henuriaid iddynt ymhob eglwys, ac wedi gweddi ynghyd ag ympryd eu cyflwyno i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ordeinio iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a gweddïo gydag ymprydiau, hwy a'u gorchmynasant hwynt i'r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peth arall wnaeth Paul a Barnabas oedd penodi grŵp o arweinwyr ym mhob eglwys. Ar ôl ymprydio a gweddïo dyma nhw'n eu gadael yng ngofal yr Arglwydd roedden nhw wedi credu ynddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Penodasant iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a'u cyflwyno, ar l gweddo ac ymprydio, i'r Arglwydd yr oeddent wedi credu ynddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi penodi iddynt henuriaid yn mhob eglwys, ac wedi gweddïo ynghyd ag ymprydiau, hwy a'u cyflwynasant hwy i'r Arglwydd yn yr hwn yr oeddent wedi credu.
Recommended Reading