Acts 14:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac fal hyn gwedy yddwynt vyned dros Pisidia, y daethant i Pamphilia.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi tramwy trwy Pisidia, daethant i Pamphulia;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi teithio trwy Bisidia deuthant i Bamffylia,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt dramwy trwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamffylia.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma nhw'n mynd yn eu blaenau i Pisidia ac yna i Pamffilia,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt deithio trwy Pisidia, daethant i Pamffylia;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a dramwyasant trwy Pisidia, ac a ddaethant i Pamphylia.