Acts 14:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac o dd ynaw yr hwyliesont y Antiocheia, o’r lle y gorchymynesit wy i rat Dew ir gwaith y gyflawnesent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac oddi yno y mordwyasant i Antiochia, o’r hon y gorchymynasid hwynt i ras Duw i’r gwaith a gyflawnasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac oddiyno hwyliasant i Antiochia, lle yr oeddynt wedi eu hymddiried i ras Duw at y gwaith a gyflawnasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymyn i ras Duw i'r gorchwyl a gyflawnasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn hwylio o Atalia yn ôl i Antiochia Syria. (Dyna lle gwnaethon nhw gael eu cyflwyno i ofal Duw i wneud y gwaith roedden nhw bellach wedi ei orffen.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac oddi yno hwyliasant i Antiochia, i'r fan lle'r oeddent wedi eu cyflwyno i ras Duw at y gwaith yr oeddent wedi ei gyflawni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac oddiyno hwy a fordwyasant i Antioch, o'r lle yr oeddent wedi eu cymeradwyo i ras Duw ar gyfer y gwaith a gyflawnasant.