Acts 14:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno wedy ei dyvot a’ chascly yr Eccles yn‐cyd, adrodd a wnaethant pop peth a’r y wnaethoeð oedd Dew trwyddwynt vvy, a’ darvot iddaw agori drws y ffydd ir Cenetloedd
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod a chasglu’r eglwys ynghyd, mynegasant faint o bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac yr agorodd Efe i’r cenhedloedd ddrws ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt gyrraedd cynullasant yr eglwys, a mynegi gymaint a wnaethai Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i’r Cenhedloedd ddrws ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt ddyfod, a chynnull yr eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethai Duw gyda hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yno dyma nhw'n galw'r eglwys at ei gilydd a dweud am y cwbl roedd Duw wedi ei wneud trwyddyn nhw, a sut oedd wedi rhoi'r cyfle i bobl o genhedloedd eraill ddod i gredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt gyrraedd, cynullasant yr eglwys ynghyd ac adrodd gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud gyda hwy, ac fel yr oedd wedi agor drws ffydd i'r Cenhedloedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddynt gyrhaedd, a chasglu yr Eglwys ynghyd, hwy a fynegasant y fath bethau a wnaeth Duw gyda hwynt, ac iddo agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.