Acts 14:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac am hyny yr arosant ynaw yn hir o amser, ac a gympwyllesont yn hyderus yn yr Argiwyð, yr hwn a destolaethei y gyd a’ gair y rat ef, ac a barawdd bot gwneuthy ’r arwyddion a’ ryveddodae gan y dwylaw hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Amser maith, gan hyny, yr arhosasant yno, gan lefaru yn hyderus yn yr Arglwydd, yr Hwn a dystiolaethai i Air Ei ras, gan roddi i arwyddion a rhyfeddodau eu gwneuthur trwy eu dwylaw hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly treuliasant gryn amser, gan lefau’n hy am yr Arglwydd, yr hwn a dystiai i’r gair am ei ras trwy beri gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny hwy a arosasant yno amser mawr, gan fod yn hy yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei ras, ac yn cenhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Arhosodd Paul a Barnabas yno am amser hir, yn dal ati i siarad yn gwbl ddi-ofn am yr Arglwydd. Ac roedd yr Arglwydd yn profi fod y neges am ei ddaioni yn wir drwy roi'r gallu iddyn nhw wneud gwyrthiau rhyfeddol oedd yn dangos ei fod e gyda nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Treuliasant, felly, gryn amser yn llefaru'n hy yn yr Arglwydd, a thystiodd yntau i air ei ras trwy beri gwneud arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, yn wir, hwy a dreuliasant yno amser hir, gan lefaru yn hyf yn yr Arglwydd, yr hwn oedd yn tystiolaethu i Air ei Ras, gan genhadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylaw hwynt.