Acts 14:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
deall y peth wnaethant a’ chilio i Lystra, ac Derbe, dinasoedd yn Lycaonia, ac ir bro o y amgylch,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
gan wybod hyn, ffoisant i ddinasoedd Lucaonia a Derbe,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
wedi dyfod i wybod diangasant i ddinasoedd Lycaonia, Lystra a Derbe a’r cylch,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddeallasant hyn, ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i'r wlad oddi amgylch:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond clywon nhw beth oedd ar y gweill, a dianc i'r ardal o gwmpas Lystra a Derbe yn Lycaonia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
wedi cael achlust o'r peth ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a hwy yn ymwybodol o hyn, ffoisant i ddinasoedd Lycaonia, sef Lystra a Derbe, a'r wlad oddi amgylch: